• Home
  • About
  • Visit Us
  • Archaeology Field School
  • Courses and events
  • Get Involved
  • Shop
  • Contact
  • Work with us
  • Stay locally
  • Cartref
  • Amdanom
  • Ymweld
  • Ysgol Maes Archaeoleg
  • Cyrsiau a digwyddiadau
  • Cymerwch Ran
  • Siop
  • Cysylltwch
  • Gweithio gyda ni
  • Aros yn lleol

amdanom

Ein Nodau

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur fel elusen yn 2006 a phrynodd fferm Mynachlog Fawr yn 2016. Tri phrif nod yr Ymddiriedolwyr yw:
  • diogelu ac adfer yr holl adeiladau, gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy a'r technolegau gorau sydd ar gael;
  • sefydlu Canolfan Ystrad Fflur sy’n rhannol-breswyl i helpu pobl i ddysgu am dreftadaeth a chadwraeth, materion amgylcheddol, ac iaith a diwylliannau Cymru;
  • rhoi croeso cynnes i ymwelwyr, preswylwyr a phobl leol a'u helpu i fwynhau amgylchedd, hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal.
Mae hon yn rhaglen gyffrous ac uchelgeisiol a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r rhai sy'n byw yn yr ardal a'r rhai sy'n ymweld ag Ystrad Fflur.

Hanes

Mae Ystrad Fflur, yng nghanol daearyddol Cymru, yn lle arbennig. Mae'r tir o'i gwmpas yn gyfoethog o hanes drwy'r canrifoedd. Yn nyffryn Glasffrwd, sefydlodd pobloedd o'r Oes Efydd nifer o garneddau claddu ar gyfer eu meirw; yn yr Oes Haearn adeiladwyd bryngaer fawr ar Ben-y-Bannau gerllaw; a thrwy ddyffryn Teifi gyrrodd y Rhufeiniaid eu ffyrdd newydd, syth. Mae'r ffynhonnau sanctaidd niferus sydd i'w cael yn yr ardal yn awgrymu bod yma le sancteiddrwydd dros gyfnod hir.
​
Daeth y Sistersiaid i Ystrad Fflur am y tro cyntaf o Hendy-gwyn ar Daf ym 1164, gan chwilio am le anghysbell ond ffrwythlon yn Henfynachlog i arfer eu ffydd a gwneud bywoliaeth. Ailsefydlodd Rhys ap Gruffudd, tywysog teyrnas Deheubarth yn ne Cymru, yr Abaty ym 1184 ar ei safle presennol, ac yna daeth yn ganolfan ddiwylliannol bwysig i deyrnasoedd annibynnol Cymru. Bron heb os nac oni bai, cafodd rhai o'r testunau cynharaf a phwysicaf yn y Gymraeg, gan gynnwys Llawysgrifau Hendregadredd a Llyfr Gwyn Rhydderch, eu hysgrifennu yn yr Abaty, a bu beirdd Cymraeg, gan gynnwys yr enwocaf ohonynt oll, Dafydd ap Gwilym, yn canu ei glodydd. Roedd y mynaich yn uniaethu â thywysogion Cymru a'u gobeithion am hunaniaeth annibynnol, a chladdwyd llawer o'r arweinwyr hyn a'u perthnasau yn Ystrad Fflur.  Talodd yr Abaty’n ddrud am ei deyrngarwch, fodd bynnag, yn nwylo byddinoedd Lloegr Edward I ac yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, y Cymro brodorol olaf i ddal teitl Tywysog Cymru ac a arweiniodd ryfel annibyniaeth yn erbyn y Saeson.

Datblygodd y mynaich a'u gweithwyr economi ffyniannus o fewn yr ystâd fawr a gawsant gan Rhys ap Gruffudd. Dibynnai’n bennaf ar ffermio defaid, yr allforiwyd ei gynnyrch o Aberarth, sef rhan arall o diroedd yr Abaty. Ond, ym 1539, diddymodd Harri VIII yr Abaty. Aeth yr adeiladau â'u pen iddynt ac erbyn hyn, ar ôl blynyddoedd lawer o warchodaeth gan fonedd lleol, mae eu gweddillion, gan gynnwys bwa enwog mynedfa orllewinol eglwys yr Abaty, bellach yng ngofal Cadw.  Ymhen amser cafodd llawer o'r cerrig eu hailddefnyddio ar gyfer adeiladau newydd – gan gynnwys ffermdy Mynachlog Fawr.  Am fwy na thair canrif, enillai tenantiaid y fferm fywoliaeth anodd yn aml o'r tir o gwmpas, ac maent yn dal i wneud hynny heddiw, er bod yr Ymddiriedolaeth wedi prynu ei graidd hanesyddol.
Picture
Picture

Y TY A'R ADEILADAU

Adeiladwyd rhan o ffermdy rhestredig Gradd II* Mynachlog Fawr yn wreiddiol yn yr unfed ganrif ar bymtheg allan o olion ffreutur yr Abaty, yn esiampl o’r bonedd yn troi rhannau o'r prif adeiladau mynachaidd yn breswylfa. Yna cafodd ei ailadeiladu fel plasty ym 1670-80. Ar y llawr gwaelod ceir parlwr panelog sy'n cynnwys nodweddion o'i orffennol bonedd, gan gynnwys paentiad panel a nenfydau wedi'u peintio o ddiwedd yr 17eg ganrif.  Ceir grisiau o'r 17eg ganrif hefyd, a chegin fawr, sy'n cadw ffitiadau o’i defnydd fel ffermdy tenantiaid Cymreig yn y 19eg a'r 20fed ganrif.

Yn rhychwantu sawl canrif, mae gan y tŷ a'r gwrthrychau ynddo stori hanes pensaernïol a chymdeithasol ddiddorol i’w hadrodd. Ond heddiw, mae'r tŷ mewn cyflwr gwael ac mae angen ei adfer ar frys.

Yn sgil haelioni rhoddwyr, mae'r Ymddiriedolaeth eisoes wedi adfer dau o adeiladau'r fferm: y Beudy, adeilad rhestredig gradd II, a gafodd ei droi'n lle cymunedol a swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth yn 2019; a Thŷ Pair, cegin ar wahân, a'r cartws cyfagos, a adferwyd ac a agorwyd i'r cyhoedd yn 2021 fel Arddangosfa Mynachlog Fawr yn arddangos dogfennau, gwrthrychau'r cartref ac offer amaethyddol o'r fferm.

Mae pedwar prosiect adfer ac adeiladu mawr arall ar y gweill dros y blynyddoedd nesaf
Picture

EIN CAMAU NESA

Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau arian i gwblhau gwaith adfer ffermdy Mynachlog Fawr ac adeiladu cyfleusterau newydd ac adeilad llety. Mae gweddill yr adeiladau fferm mewn cyflwr gwael, er eu hatgyweirio dros dro, ac mae angen eu hadnewyddu cyn gynted ag y gallwn sicrhau cyllid.  Yn ogystal, er mwyn cynnig mwy o gyrsiau yng Nghanolfan Ystrad Fflur, mae'n hanfodol inni allu darparu mannau dysgu a llety digonol. 

Mae pedwar adeilad rydym yn bwriadu eu hadfer neu eu hadeiladu:


  • y Ffermdy ei hun, i roi mynediad i'r cyhoedd i'r llawr gwaelod o leiaf
  • y Bloc Stablau, i'w ddefnyddio fel mannau ar gyfer gweithdai, ymchwil, hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill
  • y Sgubor Ddyrnu, a fydd yn caniatáu i ni gynnal grwpiau a digwyddiadau mwy o faint
  • Bloc Llety a chegin newydd, fel y gall dysgwyr ar gyrsiau hirach aros dros nos ar y safle, a gall ymwelwyr ddod o hyd i gysgod a bwyd.
    ​
Pan fydd yr adeiladau hyn yn cael eu defnyddio, gallwn ddechrau cynnig ystod eang o gyrsiau yn y tri maes hyn, gan adeiladu ar lwyddiant yr Ysgolion Haf Archaeoleg:

  • treftadaeth a chadwraeth, yn enwedig tai hanesyddol
  • rheoli amgylcheddol a defnydd tir cynaliadwy
  • y Gymraeg, llenyddiaeth Gymraeg a diwylliannau Cymru
    ​
Bydd y llety preswyl newydd a'r cyfleusterau cegin yn ein galluogi i ddarparu ar gyfer ystod ehangach o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau dydd, cyrsiau penwythnos, ac a allai fod yn hirach gyda chyfleusterau ar waith ar gyfer gweithdai ymarferol, darlithoedd a hyfforddiant.
Picture
Picture
Picture

Ein pobl ni

Gweithredir Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur gan fwrdd o 12 Ymddiriedolwr, dan arweiniad Cadeirydd. Mae gan y bwrdd sbectrwm eang o arbenigedd lleol a chenedlaethol mewn treftadaeth, twristiaeth, cadwraeth a disgyblaethau academaidd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cyflogi Cyfarwyddwr Gweithredol sy'n rheoli prosiectau a gweithgareddau dyddiol yr Ymddiriedolaeth.​
Yr Ymddiriedolwyr
Michael Taylor (cadeirydd)
Manon Antoniazzi
 (ysgrifennydd)
Helena Venables
Richard Broyd
Y Cynghorydd Ifan Davies
Jasmine Wilson
Gaenor Parry
Dr Eurig Salisbury
​Peredur Evans
​Ken Murphy
Swyddogion yr Ymddiredolaeth
Carys Aldous-Hughes (Cyfarwyddwr gweithredol)
Tiffany Evans (Swyddog Ymgysylltu ac Allgymorth Treftadaeth)
​Kate Sullivan 
(Swyddog Ymgysylltu ac Allgymorth Treftadaeth)
Debbie Richards (Cynorthwy-ydd Gweinyddu)
Nathan Goss (Rheolwr Adeiladau)
Lloyd Osbourne (Cyfrifydd).


Arbennig yr Ymddiriedolaeth
Yr Athro John Darlington​
​
Llysgenhadon yr Ymddiriedolaeth
Yr Athro Roger Earis
Dr Ann Rhys
Jonathan Jones
​Bryn Howell-Pryce
Dr Jane Davidson
Yr Athro Dame Elan Closs Stephens
John Wildig
Yr Athro Dafydd Johnston
​Dr Eurwyn Wiliam

EIN PARTNERIAID A'N CYLLIDWYR

Mae Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn ddiolchgar iawn am grantiau ariannu gan lawer o gyrff, gan gynnwys:
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Henebion y Byd, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Allchurches, Cynnal y Cardi, Cyngor Celfyddydau Cymru a phrosiect Tirweddau Sanctaidd Mynachlogydd Canoloesol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Rydym yn gweithio gyda llawer o bartneriaid gan gynnwys Sefydliad y Tywysog, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

PROSIECT YMCHWIL YSTRAD FFLUR

Ers 1999, cafwyd rhaglen barhaus o ymchwil archeolegol a hanesyddol yn Ystrad Fflur, y mae canlyniadau cloddio'r Ysgol Haf yn cyfrannu ati.  Dechreuodd yr ymchwil yn rhan o raglen hyfforddi Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan ond mae bellach yn un o brosiectau Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur ei hun.  Mae hyn yn dal i fod mewn partneriaeth barhaus â'r brifysgol drwy grant mawr gan Gyngor y Celfyddydau a'r Dyniaethau sy'n astudio Tirweddau Sanctaidd Mynachlogydd Canoloesol ar y cyd ag Athrofa Astudiaethau Canoloesol Prifysgol Leeds.

rhaglen mwyngloddiau metel

​Ariennir y Rhaglen Mwyngloddiau Metel gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei darparu ar y cyd gan CNC a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio. Ei nod yw gwarchod a gwella'r amgylchedd dŵr er budd pobl a bywyd gwyllt trwy gyflawni afonydd glanach a chyfrannu at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r Rhaglen wedi nodi nifer o safleoedd o amgylch Cymru sydd ar restr Coch ac Ambr o fwyngloddiau metel segur llygredig, ac mae’n asesu’r safleoedd hyn o ran gweithredu gwaith adfer priodol, megis rheoli dŵr a gwastraff arwynebol, a/neu gynlluniau trin dŵr mwyngloddiau. Gall y gwaith adfer hwn hefyd arwain at fanteision i iechyd a lles cymunedau lleol, economïau lleol a'r amgylchedd ehangach, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a bio-amrywiaeth a chadwraeth/hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol.

Un o'r mwyngloddiau a aseswyd ac a glustnodwyd ar gyfer gwaith adfer yw mwynglawdd Abbey Consols, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r Abaty, a gloddiwyd o bosibl gan fynachod Sistersaidd yn y canol oesoedd, a thros y canrifoedd dilynol, ac a weithiwyd yn eithaf helaeth, er hynny am gyfnodau byr o amser, yn ystod y 19eg ganrif, yn bennaf ar gyfer plwm, ond hefyd ar gyfer arian a sinc. Rhan o'n rôl yn y prosiect mwyngloddiau metel yw hyrwyddo a datblygu mwynglawdd Abbey Consols fel nodwedd o'n rhaglen ymgysylltu ag ymwelwyr, digwyddiadau ac addysg. I’r perwyl hwn, byddwn yn dylunio adnoddau addysgiadol ar gyfer ysgolion ac yn cynnal taith dywys a siarad i fyny’r pwll ei hun, i gyd-fynd â thaith bresennol yr Abaty ac Arddangosfa Mynachlog Fawr. Byddwn hefyd yn cynnal prosiect hanes llafar, lle gobeithiwn gasglu unrhyw atgofion am y rhai a fu'n gweithio yn y pyllau glo o amgylch Ystrad Fflur a allai fod wedi'u trosglwyddo i'w disgynyddion.

Gallwch ddysgu mwy am y Rhaglen Mwyngloddiau Metel ar wefan CNC: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/metal-mines/metal-mine-water-pollution/

GWEITHIO GYDA'R GYMUNED

Picture
Picture
Rydym yn gweithio yn agos gyda’r gymuned leol, gan gynnal digwyddiadau  a gweithdai cymunedol, ymweliadau gan ysgolion a chymdeithasau,  a chynnig gofod at ddefnydd y gymuned.

Cynhaliwn amrywiaeth o sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r rhain wedi cynnwys gweithdy celf a straeon i deuluoedd a ysbrydolwyd gan straeon y gwrthrychau yn yr arddangosfa, sgwrs ar-lein yn trafod gwaith menywod yng Nghymru'r 19eg Ganrif, a phrosiect tecstilau cymunedol a grëwyd ar y cyd gan bobl leol yn ystod pandemig Covid.  Cydlynwyd hyn gan yr artist Catrin Williams ac arweiniodd at faner yn cyfleu bywyd yn yr ardal 100 mlynedd yn ôl, sydd bellach i’w gweld yn arddangosfa Tŷ Pair. I weld digwyddiadau a chyrsiau sydd ar ddod, cliciwch yma.

Mae Grŵp Cyswllt Cymunedol gweithgar yn ein helpu yn ein gwaith. Un o brosiectau'r Grŵp fu codi arian i greu fersiwn barhaol o 'Y Pererin', cerflun gan Glenn Morris. Safai hwn yn wreiddiol fel ffigwr pren ar fryn yn edrych dros Ystrad Fflur, a daeth yn dirnod annwyl.
​
Yn y dyfodol hoffem estyn ein diffiniad o 'gymuned' yn llawer ehangach i groesawu unrhyw un, yng Ngheredigion, yng Nghymru a ledled y byd, sydd â diddordeb yn ein gwaith a'n delfrydau.

Picture
CYSYLLTU Â NI:
​GET IN TOUCH:
Swyddfa Ystrad Fflur/Strata Florida Office
01974831760

​
​[email protected]

    Tanysgrifio i'n rhestr bostio
    Subscribe to our mailing list

Submit
Privacy Policy  (Registered Charity No: 1117469; Company Limited by Guarantee no. 5862222)

  • Home
  • About
  • Visit Us
  • Archaeology Field School
  • Courses and events
  • Get Involved
  • Shop
  • Contact
  • Work with us
  • Stay locally
  • Cartref
  • Amdanom
  • Ymweld
  • Ysgol Maes Archaeoleg
  • Cyrsiau a digwyddiadau
  • Cymerwch Ran
  • Siop
  • Cysylltwch
  • Gweithio gyda ni
  • Aros yn lleol