• Home
  • About
  • Visit Us
  • Archaeology Field School
  • Courses
  • Events
  • Get Involved
  • Shop
  • Contact
  • Work with us
  • Stay locally
  • Cartref
  • Amdanom
  • Ymweld
  • Ysgol Maes Archaeoleg
  • Cyrsiau
  • Digwyddiadau
  • Cymerwch Ran
  • Siop
  • Cysylltwch
  • Gweithio gyda ni
  • Aros yn lleol

digwyddiadau

Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau yn Ystrad Fflur, gweler rhestr o ddigwyddiadau sydd ar y gweill isod.

​ Os hoffech chi gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio, ewch i waelod y dudalen.
​
Os hoffech fwy o wybodaeth am ein Ysgol Maes Archaeoleg Ystrad Fflur (SFAFS) clickiwch yma

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau ac yn chwilio am rywle i aros, cliciwch yma i ymweld â'n tudalen aros yn lleol.
​

Mae ein holl ddigwyddiadau am ddim ond rydym yn croesawu rhoddion i'n helpu i barhau â'n gwaith yn y safle hanesyddol unigryw hwn!

Picture
Diwrnodau Gweithgareddau i Blant
Dod â Hanes yn Fyw yn Ystrad Fflur
Bydd ein Diwrnodau Gweithgareddau i Blant yn rhyngweithiol a gellir eu cyflwyno yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd y pynciau’n cynnwys hanes yr abaty canoloesol a bywydau’r mynachod Sistersaidd a oedd yn byw yma, Ffermdy Mynachlog Fawr,  profiadau archaeoleg ymarferol, ac effaith amgylcheddol mwynglawdd plwm Abbey Consols gerllaw.

Gwahoddir ysgolion a theuluoedd y tu allan i oriau ysgol i ddod draw a dysgu mwy am y safle diwylliannol a hanesyddol pwysig hwn.

Beth am ddod â phicnic i’w fwynhau wedyn yn ein hardal bicnic neu’r Beudy? Bydd y Ganolfan Ymwelwyr ar agor ar gyfer diodydd a byrbrydau poeth ac oer, a gallwch hefyd yn crwydo'r Abaty ac Arddangosfa Mynachlog Fawr.

Dyddiadau ar gyfer 2026
Amser 10yb-12yp


Dydd Iau 19 Chwefror
Dydd Mercher 1 Ebrill 
Dydd Mercher 27 Mai 
Dydd Iau 13 Awst 
Dydd Iau 29 Hydref 

Mae cofrestru'n hanfodol
​

Mae'r gweithgareddau hyn yn rhad ac am ddim ond croesewir rhoddion i Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur.
​

​Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Tiffany ar 01974831760
​neu e-bostiwch [email protected]
Cofrestru
Picture
Teithiau Tywys
​Ystrad Fflur
Yn ystod 2026, byddwn yn cynnal teithiau tywys rheolaidd, yn Saesneg ac yn y Gymraeg, dan arweiniad un o'n staff gwybodus a fydd yn adrodd hanes yr Abaty, Tywysogion Deheubarth, bywydau'r mynachod Sistersaidd, y Diddymiad a dechreuadau Ffermdy Mynachlog Fawr, a hanes ac effaith mwynglawdd plwm Abbey Consols gerllaw.

Dyddiadau yn 2026:
Dydd Mercher 25 Mawrth, 2yp - Saesneg
Dydd Mercher 20 Mai, 2yp - Cymraeg
Dydd Sadwrn 13 Mehefin, 11yb - Saesneg
Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf - WEDI CANSLO
Dydd Mercher 19 Awst, 2yp -​ Saesneg - YN LLAWN
Dydd Mercher 21 Hydref, 11yb yn y Gymraeg; 2yp yn Saesneg

Mae angen cofrestru

Does dim cost penodol am y teithiau hyn ond croesawir rhoddion yn gynnes iawn!​
COFRESTRU
Picture
Cyngerdd Carolau Nadolig
Nos Fercher 2il Rhagfyr
6yh
Cynhelir ein cyngerdd Nadolig eleni eto yn Eglwys y Santes Fair gyda Choirs for Good a lluniaeth a chroeso cynnes wedyn yn Y Beudy. 

Dim angen cofrestru

Picture
CYSYLLTU Â NI:
​GET IN TOUCH:
Swyddfa Ystrad Fflur/Strata Florida Office
01974831760

​
​[email protected]

    Tanysgrifio i'n rhestr bostio
    Subscribe to our mailing list

Submit
Privacy Policy  (Registered Charity No: 1117469; Company Limited by Guarantee no. 5862222)

  • Home
  • About
  • Visit Us
  • Archaeology Field School
  • Courses
  • Events
  • Get Involved
  • Shop
  • Contact
  • Work with us
  • Stay locally
  • Cartref
  • Amdanom
  • Ymweld
  • Ysgol Maes Archaeoleg
  • Cyrsiau
  • Digwyddiadau
  • Cymerwch Ran
  • Siop
  • Cysylltwch
  • Gweithio gyda ni
  • Aros yn lleol