Dydd Mercher
4 Rhagfyr 6yh GWASANAETH CAROLAU'R NADOLIG Noson Nadoligaidd o ganu carolau llawen ar y cyd, yng nghwmni Choirs For Good Aberystwyth a Chorau Llanidloes. Dathlwch yr adeg hon o'r flwyddyn gyda'ch anwyliaid yn y lleoliad unigryw a hardd hwn. Lluniaeth ar ôl y cyngerdd yn Y Beudy. Mae'r noson yn rhad ac am ddim i'w mynychu, fodd bynnag croesewir rhoddion.
Nodwch! Mae'r ffordd 4340 ar gau ger Llanafan am fis o 25 Tachwedd, manylion yma: https://www.ceredigion.gov.uk/media/43hov21w/ar-map.pdf Dydd Iau 8 a Dydd Gwener 9 Mai, 10yb i 4yp Argraffu gyda Phecynnu: Chine Collé gyda Marian Haf Argraffu gyda Phecynnu gyda Chine Collé, gweithdy deuddydd
Yn y gweithdy deuddydd hwn byddwn yn trawsnewid pecynnau cartref yn brintiau chwareus gan ddefnyddio hud gwneud printiau. Bydd y diwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar wneud printiau intaglio - cerfwedd a boglynnog - gyda'r ail ddiwrnod wedi'i neilltuo i ychwanegu lliw a gwead i'n printiau gyda Chine Collé - techneg o gludo papur lliwgar, patrymog neu hen llyfrau neu mapiau gyda'r print. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a gwneuthurwyr printiau mwy profiadol sydd am archwilio colagraffau a Chine Collé. Darperir lluniaeth trwy gydol y ddau dydd ond dewch â'ch cinio eich hun pob diwrnod. Cost: £150 i gynnwys yr holl ddeunyddiau |
Dydd Mercher 26 Chwefror 2025 10yb - 4yp Argraffu gyda Phecynnu, gyda Marian Haf Bydd y gweithdy hwn, dan arweiniad yr artist lleol Marian Haf, yn gyflwyniad hamddenol i wneud printiau cerfweddol ac intaglio gan ddefnyddio deunydd pacio cartref. Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer, ond mae croeso i chi ddod ag unrhyw ddelweddau i gael ysbrydoliaeth, neu gael eich ysbrydoli ar y diwrnod gan dirwedd, gwrthrychau a bywyd gwyllt Ystrad Fflur!
Darperir lluniaeth trwy gydol y dydd ond dewch â'ch cinio eich hun. Bydd y cwrs hwn hefyd yn rhedeg ar ddydd Mercher 16eg Hydref. Cost: £80 gan gynnwys yr holl ddeunyddiau Click here to download the brochure |
Dyddiad i'w cadarnhau
Mwyngloddio yng Ngheredigion Diwrnod o sgwrsiau ar y diwydiant mwyngloddio metal yng Ngheredigion Cynhelir yr ail yn ein digwyddiadau Mwyngloddio yng Ngheredigion, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, ym mis Mawrth 2025. Bydd yn cynnwys sgyrsiau ar hanes mwynglawdd Abbey Consols a mwyngloddiau eraill yn yr ardal gyfagos, gyda diweddariad ar y gwaith adfer sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael ag etifeddiaeth llygredd o’r diwydiant mwyngloddio metel yng Ngheredigion yn y gorffennol. Bydd yna hefyd daith dywys i fyny i fwynglawdd Abbey Consols ei hun, dan arweiniad aelodau o'r Rhaglen Mwyngloddiau Metel.
Mwy o fanylion yn fuan! |
CYSYLLTU Â NI:
GET IN TOUCH: |
|