• Home
  • About
  • Visit Us
  • Archaeology Field School
  • Courses
  • Events
  • Get Involved
  • Shop
  • Contact
  • Work with us
  • Stay locally
  • Cartref
  • Amdanom
  • Ymweld
  • Ysgol Maes Archaeoleg
  • Cyrsiau
  • Digwyddiadau
  • Cymerwch Ran
  • Siop
  • Cysylltwch
  • Gweithio gyda ni
  • Aros yn lleol

Tudalen ymweld

Yn gyforiog o hanes a threftadaeth, bywyd gwyllt a diwylliant, mae Ystrad Fflur yn lle perffaith i ymweld ag ef. O henebion hynafol a thrawiadol i'n harddangosfa sy’n rhoi'r cyfle i ymwelwyr gael cipolwg ar hanes diddorol Myanchlog Fawr, a thirwedd godidog i'w archwilio ar droed neu ar feic, mae llawer i'w weld

CANOLFAN YMWELWYR ABATY YSTRAD FFLUR

Oriau agor
10yb-4yp bob dydd, 30fed Mawrth i 31ain Hydref
Ar gau Tachwedd-Chwefror ond ar agor gan apwyntiadau

Mynediad am ddim ond croeso i roddion er mwyn cefnogi parhad y safle eiconig hwn.

​

Arddangosfa Mynachlog Fawr

Oriau agor
11yb-3yp bob dydd, 30fed Mawrth i 31ain Hydref
Ar gau Tachwedd-Chwefror ond ar agor gan apwyntiadau.
​

Mynediad am ddim ond croeso i roddion!

Mae Canolfan Ymwelwyr yr Abaty a'r Arddangosfa ill dau yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau gyda pharcio am ddim gerllaw.

Ysgolion, grwpiau a chymdeithasau

 Byddem wrth ein bodd yn croesawu eich ysgol, grŵp neu sefydliad i Ystrad Fflur! Rydym yn cynnig gweithdai wedi'u teilwra ar gyfer ysgolion gyda gweithgareddau ymarferol yn unol â'r cwricwlwm a theithiau tywys o amgylch yr Abaty gydag un o'n haelodau staff gwybodus. Cysylltwch â ni yn [email protected] am ragor o wybodaeth.

Rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau rheolaidd i blant a theithiau tywys o amgylch y safle, ar gyfer teuluoedd ac unigolion, y gellir dod o hyd i fanylion amdanynt ar ein tudalen digwyddiadau.

Sut i  gyrraedd

Car: Mae Ystrad Fflur yn gorwedd 1 filltir i'r dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid. Mae'r pentref ar y B4343 rhwng Pontarfynach a Thregaron ar y gyffordd â'r B4340 i Aberystwyth. Mae'r troad am Ystrad Fflur ychydig i'r de o'r bont ar draws Afon Teifi ac mae'n cael ei farcio gan arwyddion hamdden brown. Parcio am ddim ar y safle. Côd post: SY25 6ES.

Trafnidiaeth Gyhoeddus: Mae yna wasanaeth rheilffordd i Aberystwyth, a gwasanaeth bws i bentref Pontrhydfendigaid 1 filltir i ffwrdd. Sylwer nad oes gwasanaeth uniongyrchol i Ystrad Fflur ei hun.

Cerdded a beicio: Mae llu o lwybrau cerdded a beicio yn mynd trwy Ystrad Fflur, gan gynnwys y Cambrian Way. Rac beiciau ar gael. Cyfeirnod grid OS: SN 7467 6569


Cyfleusterau

Picture



Picture
CYSYLLTU Â NI:
​GET IN TOUCH:
Swyddfa Ystrad Fflur/Strata Florida Office
01974831760

​
​[email protected]

    Tanysgrifio i'n rhestr bostio
    Subscribe to our mailing list

Submit
Privacy Policy  (Registered Charity No: 1117469; Company Limited by Guarantee no. 5862222)

  • Home
  • About
  • Visit Us
  • Archaeology Field School
  • Courses
  • Events
  • Get Involved
  • Shop
  • Contact
  • Work with us
  • Stay locally
  • Cartref
  • Amdanom
  • Ymweld
  • Ysgol Maes Archaeoleg
  • Cyrsiau
  • Digwyddiadau
  • Cymerwch Ran
  • Siop
  • Cysylltwch
  • Gweithio gyda ni
  • Aros yn lleol