Mae Ystrad Fflur, yng nghanol daearyddol Cymru, yn lle arbennig. Mae'r tir o'i gwmpas yn gyfoethog o hanes drwy'r canrifoedd. Yn nyffryn Glasffrwd, sefydlodd pobloedd o'r Oes Efydd nifer o garneddau claddu ar gyfer eu meirw; yn yr Oes Haearn adeiladwyd bryngaer fawr ar Ben-y-Bannau gerllaw; a thrwy ddyffryn Teifi gyrrodd y Rhufeiniaid eu ffyrdd newydd, syth. Mae'r ffynhonnau sanctaidd niferus sydd i'w cael yn yr ardal yn awgrymu bod yma le sancteiddrwydd dros gyfnod hir.
Daeth y Sistersiaid i Ystrad Fflur am y tro cyntaf o Hendy-gwyn ar Daf ym 1164, gan chwilio am le anghysbell ond ffrwythlon yn Henfynachlog i arfer eu ffydd a gwneud bywoliaeth. Ailsefydlodd Rhys ap Gruffudd, tywysog teyrnas Deheubarth yn ne Cymru, yr Abaty ym 1184 ar ei safle presennol, ac yna daeth yn ganolfan ddiwylliannol bwysig i deyrnasoedd annibynnol Cymru. Bron heb os nac oni bai, cafodd rhai o'r testunau cynharaf a phwysicaf yn y Gymraeg, gan gynnwys Llawysgrifau Hendregadredd a Llyfr Gwyn Rhydderch, eu hysgrifennu yn yr Abaty, a bu beirdd Cymraeg, gan gynnwys yr enwocaf ohonynt oll, Dafydd ap Gwilym, yn canu ei glodydd. Roedd y mynaich yn uniaethu â thywysogion Cymru a'u gobeithion am hunaniaeth annibynnol, a chladdwyd llawer o'r arweinwyr hyn a'u perthnasau yn Ystrad Fflur. Talodd yr Abaty’n ddrud am ei deyrngarwch, fodd bynnag, yn nwylo byddinoedd Lloegr Edward I ac yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, y Cymro brodorol olaf i ddal teitl Tywysog Cymru ac a arweiniodd ryfel annibyniaeth yn erbyn y Saeson. Datblygodd y mynaich a'u gweithwyr economi ffyniannus o fewn yr ystâd fawr a gawsant gan Rhys ap Gruffudd. Dibynnai’n bennaf ar ffermio defaid, yr allforiwyd ei gynnyrch o Aberarth, sef rhan arall o diroedd yr Abaty. Ond, ym 1539, diddymodd Harri VIII yr Abaty. Aeth yr adeiladau â'u pen iddynt ac erbyn hyn, ar ôl blynyddoedd lawer o warchodaeth gan fonedd lleol, mae eu gweddillion, gan gynnwys bwa enwog mynedfa orllewinol eglwys yr Abaty, bellach yng ngofal Cadw. Ymhen amser cafodd llawer o'r cerrig eu hailddefnyddio ar gyfer adeiladau newydd – gan gynnwys ffermdy Mynachlog Fawr. Am fwy na thair canrif, enillai tenantiaid y fferm fywoliaeth anodd yn aml o'r tir o gwmpas, ac maent yn dal i wneud hynny heddiw, er bod yr Ymddiriedolaeth wedi prynu ei graidd hanesyddol. |
Adeiladwyd rhan o ffermdy rhestredig Gradd II* Mynachlog Fawr yn wreiddiol yn yr unfed ganrif ar bymtheg allan o olion ffreutur yr Abaty, yn esiampl o’r bonedd yn troi rhannau o'r prif adeiladau mynachaidd yn breswylfa. Yna cafodd ei ailadeiladu fel plasty ym 1670-80. Ar y llawr gwaelod ceir parlwr panelog sy'n cynnwys nodweddion o'i orffennol bonedd, gan gynnwys paentiad panel a nenfydau wedi'u peintio o ddiwedd yr 17eg ganrif. Ceir grisiau o'r 17eg ganrif hefyd, a chegin fawr, sy'n cadw ffitiadau o’i defnydd fel ffermdy tenantiaid Cymreig yn y 19eg a'r 20fed ganrif.
Yn rhychwantu sawl canrif, mae gan y tŷ a'r gwrthrychau ynddo stori hanes pensaernïol a chymdeithasol ddiddorol i’w hadrodd. Ond heddiw, mae'r tŷ mewn cyflwr gwael ac mae angen ei adfer ar frys. Yn sgil haelioni rhoddwyr, mae'r Ymddiriedolaeth eisoes wedi adfer dau o adeiladau'r fferm: y Beudy, adeilad rhestredig gradd II, a gafodd ei droi'n lle cymunedol a swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth yn 2019; a Thŷ Pair, cegin ar wahân, a'r cartws cyfagos, a adferwyd ac a agorwyd i'r cyhoedd yn 2021 fel Arddangosfa Mynachlog Fawr yn arddangos dogfennau, gwrthrychau'r cartref ac offer amaethyddol o'r fferm. Mae pedwar prosiect adfer ac adeiladu mawr arall ar y gweill dros y blynyddoedd nesaf |
Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau arian i gwblhau gwaith adfer ffermdy Mynachlog Fawr ac adeiladu cyfleusterau newydd ac adeilad llety. Mae gweddill yr adeiladau fferm mewn cyflwr gwael, er eu hatgyweirio dros dro, ac mae angen eu hadnewyddu cyn gynted ag y gallwn sicrhau cyllid. Yn ogystal, er mwyn cynnig mwy o gyrsiau yng Nghanolfan Ystrad Fflur, mae'n hanfodol inni allu darparu mannau dysgu a llety digonol.
Mae pedwar adeilad rydym yn bwriadu eu hadfer neu eu hadeiladu:
|
Yr Ymddiriedolwyr
Michael Taylor (cadeirydd) Manon Antoniazzi (ysgrifennydd) Helena Venables Richard Broyd Councillor Ifan Davies Professor Dafydd Johnston Gaenor Parry Michael Taylor Dr Eurwyn Wiliam Peredur Evans |
Trust Officers
Carys Aldous-Hughes (Cyfarwyddwr gweithredol) Tiffany Evans (Swyddog Ymgysylltu ac Augymorth Treftadaeth) Kate Sullivan (Swyddog Ymgysylltu ac Augymorth Treftadaeth - Absenoldeb Mamolaeth) Anna Roberts (Cynorthwy-ydd Gweinyddu) Nathan Goss (Rheolwr Adeiladau) Lloyd Osbourne (Cyfrifydd). Arbennig yr Ymddiriedolaeth Professor John Darlington Llysgenhadon yr Ymddiriedolaeth Professor Roger Earis Dr Ann Rhys Jonathan Jones Bryn Howell-Pryce Dr Jane Davidson Professor Dame Elan Closs Stephens John Wildig |
Rydym yn gweithio yn agos gyda’r gymuned leol, gan gynnal digwyddiadau a gweithdai cymunedol, ymweliadau gan ysgolion a chymdeithasau, a chynnig gofod at ddefnydd y gymuned.
Cynhaliwn amrywiaeth o sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r rhain wedi cynnwys gweithdy celf a straeon i deuluoedd a ysbrydolwyd gan straeon y gwrthrychau yn yr arddangosfa, sgwrs ar-lein yn trafod gwaith menywod yng Nghymru'r 19eg Ganrif, a phrosiect tecstilau cymunedol a grëwyd ar y cyd gan bobl leol yn ystod pandemig Covid. Cydlynwyd hyn gan yr artist Catrin Williams ac arweiniodd at faner yn cyfleu bywyd yn yr ardal 100 mlynedd yn ôl, sydd bellach i’w gweld yn arddangosfa Tŷ Pair. I weld digwyddiadau a chyrsiau sydd ar ddod, cliciwch yma. Mae Grŵp Cyswllt Cymunedol gweithgar yn ein helpu yn ein gwaith. Un o brosiectau'r Grŵp fu codi arian i greu fersiwn barhaol o 'Y Pererin', cerflun gan Glenn Morris. Safai hwn yn wreiddiol fel ffigwr pren ar fryn yn edrych dros Ystrad Fflur, a daeth yn dirnod annwyl. Yn y dyfodol hoffem estyn ein diffiniad o 'gymuned' yn llawer ehangach i groesawu unrhyw un, yng Ngheredigion, yng Nghymru a ledled y byd, sydd â diddordeb yn ein gwaith a'n delfrydau. |
CYSYLLTU Â NI:
GET IN TOUCH: |
|