Mae gwaith cloddio wedi bod yn rhedeg yn Ystrad Fflur ers 20 mlynedd, ac mae'r Ymddiriedolaeth bellach yn cynnal cloddfa gyhoeddus sy'n agored i bawb.
Mae'n cynnig rhaglen hyfforddi gwbl hygyrch, gan gynnwys amrywiaeth eang o dechnegau tirfesur a chloddio archaeolegol, o ddeall sut i ddefnyddio trywel yn gywir i gasglu data geoffisegol ar gyfer mapio archaeolegol. Cynigiwn gymysgedd o gyrsiau preswyl a chyrsiau dydd, ac rydym yn croesawu pobl o bob oed, yn rhai heb unrhyw brofiad archaeolegol blaenorol yn ogystal â'r rhai sydd am feithrin eu sgiliau ymhellach. Ein hysgol ni yw'r ysgol archaeoleg fwyaf cynhwysol yn y DU. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid lles a chymorth iechyd meddwl i ddarparu cymorth ar y safle i gyfranogwyr. Ein cenhadaeth yw rhannu hanes, archaeoleg a threftadaeth unigryw Ystrad Fflur a’i chysylltiadau â diwylliant Cymru gyda chynulleidfa mor amrywiol â phosibl, gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd, myfyrwyr, gwirfoddolwyr ac eraill. |
Am fwy o wybodaeth, lawrlwythwch ein llyfryn yma:
|
Dyddiadau |
Preswyl |
Di-breswyl |
4 wythnos: 16 Mehefin – 14 Gorffennaf 2025 |
- yn cynnwys yr holl fwyd, llety a hyfforddiant £3000 (blaendal £1500) |
- yn cynnwys hyfforddiant ar y safle £2380 (blaendal £1900) |
Dyddiadau |
Preswyl |
Di-preswyl |
Bwrsari |
13 – 22 Mehefin 23 – 29 Mehefin 30 Mehefin – 6 Gorffennaf 7 – 13 Gorffennaf |
- yn cynnwys yr holl fwyd, llety a hyfforddiant £750 (blaendal £375) yr wythnos** |
- yn cynnwys hyfforddiant ar y safle £595 (blaendal £298) yr wythnos arlwyaeth = £20 y diwrnod, archebu ymlaen llaw yn hanfodol |
(nifer cyfyngedig o leoedd ar gael) £395 yr wythnos* |
Dyddiadau |
Preswyl |
Di-preswyl |
Bwrsari |
Unrhyw ddydd Mercher, Iau, Gwener, Sadwrn rhwng 16 Mehefin ac 13 Gorffennaf 2025 9.15yb i 5yp. |
X |
£100 y diwrnod, gan gynnwys cinio |
X |
CYSYLLTU Â NI:
GET IN TOUCH: |
|